Cofnodion cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Olwg, Mehefin 4 2014

 

Yn bresennol:

Val Bailey (y Coleg Nyrsio Brenhinol), Andrea Gordon (Cŵn Tywys Cymru), Ceri Jackson (RNIB Cymru), Ann Jones AC, Peter Jones (Cŵn Tywys Cymru), Alexandra McMillan (RNIB Cymru), Sandy Mewies AC (Cadeirydd), Jonathan Mudd (Cŵn Tywys Cymru), Judith Parry (Sight Cymru), Tess Saunders (RNIB Cymru), Owen Williams (Vision in Wales)

Ymddiheuriadau

Sharon Beckett (Sight Cymru), Nicola Davis-Job (y Coleg Nyrsio Brenhinol), Sali Davis (Optometreg Cymru), Janet Finch-Saunders AC, Wayne Lewis (Sense Cymru), Martin O'Donnell (Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol), Eluned Parrott AC, Julie Thomas (BridgeVis), Rhodri Glyn Thomas AC

 

Nodyn ynghylch y cyfarfod

Cytunodd y grŵp y byddai'n rhaid i'r cyfarfod cyffredinol blynyddol arfaethedig gael ei ohirio yn sgil diffyg presenoldeb Aelodau Cynulliad o wahanol bleidiau gwleidyddol.

Cyflwynodd Andrea Gordon bapur ar ganllawiau drafft Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar y canllawiau hyn ar hyn o bryd. Cytunodd y grŵp â'r holl bwyntiau a godwyd yn y papur, a chytunodd y dylid anfon llythyr at y Gweinidog er mwyn codi materion gydag ef. Cytunwyd y dylid cynnwys enghreifftiau o arfer dda ac arfer ddrwg (er enghraifft, achosion lle'r oedd awdurdodau lleol wedi ymgysylltu'n effeithiol â phobl ddall a phobl rhannol ddall, ac achosion lle nad oeddent wedi gwneud hynny). Awgrymwyd hefyd y dylai Llywodraeth Cymru ystyried defnyddio'r Bil Cynllunio neu Fil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) i sicrhau bod gan grwpiau mynediad lleol sail statudol. Cytunwyd hefyd ar yr angen am ragor o gyfeiriadau yn y canllawiau at ddyletswyddau'r Ddeddf Cydraddoldeb.

Camau y cytunwyd arnynt

1.   Alex McMillan a Ceri Jackson i gwrdd â'r Cadeirydd cyn gynted â phosibl i drafod dyfodol y grŵp.

2.   Alex i ddrafftio llythyr ar ran y grŵp a'i ddosbarthu i bawb a oedd yn bresennol i'w gytuno, yn ogystal ag i'r Aelodau hynny sy'n aelodau o'r grŵp ond nad oeddent yn gallu bod yn bresennol. Bydd y Cadeirydd yn ei anfon at y Gweinidog.